Neidio i'r prif gynnwy

Treth Incwm

Honiad: ‘Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu treth incwm yng Nghymru‘

Does gan Lywodraeth Cymru ddim cynlluniau i gynyddu cyfraddau treth incwm.

Yn ystod ymddangosiad yn y Pwyllgor Cyllid ddydd Mercher 25 Medi 2024, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn hollol glir – er bod pob un  o’r trethi datganoledig yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses gyllideb flynyddol – o gofio bod llawer o bobl yn dal i gael trafferth ymdopi â chostau byw, nid yw codi treth incwm yn rhywbeth a fydd yn cael ei argymell.

Terfynau Cyflymder 20mya

Honiad: ‘Nid oes tystiolaeth bod y terfyn cyflymder o 20mya wedi lleihau nifer yr anafusion‘

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data bob chwarter am wrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya. Mae’r data’n cynnwys gwybodaeth ynghylch pa ardaloedd heddlu y cafwyd gwrthdrawiadau, trwy’r dangosfwrdd rhyngweithiol: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: dangosfwrdd rhyngweithiol | LLYW.CYMRU.

Mae ffigurau’r chwarter diweddaraf yn dangos y bu 19% yn llai o anafusion ar ffyrdd 20mya a 30mya (o’u cyfuno) rhwng Ionawr a Mawrth 2024 nag yn y chwarter blaenorol (463) a 26% yn llai nag yn yr un chwarter yn 2023 (510). Yn gyffredinol, mae’r nifer wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf ond dyma’r ffigur isaf i’w gofnodi yng Nghymru y tu allan i gyfnod COVID-19.

Mae adroddiad Trafnidiaeth Cymru ar y Terfyn Cyflymder Diofyn o 20mya ar Ffyrdd Cyfyngedig yn dangos bod y cyflymder ar gyfartaledd ar briffyrdd wedi gostwng 4mya ar gyfartaledd – o 28.9mya i 24.6.

Prif amcan y polisi o’r dechrau oedd lleihau nifer yr anafusion a helpu pobl i deimlo’n fwy diogel yn eu cymunedau. Byddwn yn parhau i fonitro’r duedd tymor hir ond mae pethau’n mynd i’r cyfeiriad iawn.

Y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol

Honiad: ‘Mae Cymru yn rhoi £1,600 y mis i fudwyr anghyfreithlon‘

Cafodd y cynllun peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal ei gynllunio gan Lywodraeth Cymru i gefnogi plant wrth iddynt adael gofal yn 18 oed. Nod y peilot oedd rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’r grŵp hwn. Roedd gan y rhaglen feini prawf cymhwyso penodol iawn.

Roedd y peilot ar agor rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023 i’r rhai oedd yn troi’n 18 oed yn y cyfnod hwnnw ac wedi bod yng ngofal yr awdurdod lleol am o leiaf 13 wythnos rhwng 14 ac 18 oed, gan gynnwys pobl ifanc sy’n byw tu allan i Gymru ond yn cael cefnogaeth gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae’r rhai sy’n rhan o’r cynllun peilot yn cael £1280 y mis (£1,6000 cyn treth) am 24 mis, gan ddechrau o’r mis ar ôl eu 18fed pen-blwydd.

Darllenwch mwy

Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Honiad: ‘Mae Llywodraeth Cymru yn addysgu addysg rhyw i blant tair oed‘

Mae’r honiad fod Llywodraeth Cymru yn ‘dysgu addysg rhyw i blant tair oed’ yn anghywir.

Mae’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn amlinellu’r cwricwlwm gorfodol ar gyfer ysgolion Cymru, gan sicrhau addysg sy’n briodol i oedran.Mae’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn gosod canllawiau clir fel bod plant yn dysgu am bynciau sy’n briodol i’w hoedran a’u datblygiad.

Ar gyfer y blynyddoedd cynnar, y ffocws yw meithrin perthnasoedd iach, adeiladu hunan-barch, cydnabod a chyfathrebu teimladau a ffurfio cyfeillgarwch. Nid yw’r gwersi hyn yn cynnwys perthnasoedd rhamantaidd.

Mae’r cwricwlwm yn cefnogi datblygiad emosiynol a chymdeithasol plant mewn ffordd briodol.

Gellir dod o hyd i fwy o fanylion yn Cwricwlwm i Gymru: Y Cod Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb