Neidio i'r prif gynnwy

Y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol

Honiad: ‘Mae Cymru yn rhoi £1,600 y mis i fudwyr anghyfreithlon

Cafodd y cynllun peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal ei gynllunio gan Lywodraeth Cymru i gefnogi plant wrth iddynt adael gofal yn 18 oed. Nod y peilot oedd rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’r grŵp hwn. Roedd gan y rhaglen feini prawf cymhwyso penodol iawn.

Roedd y peilot ar agor rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023 i’r rhai oedd yn troi’n 18 oed yn y cyfnod hwnnw ac wedi bod yng ngofal yr awdurdod lleol am o leiaf 13 wythnos rhwng 14 ac 18 oed, gan gynnwys pobl ifanc sy’n byw tu allan i Gymru ond yn cael cefnogaeth gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae’r rhai sy’n rhan o’r cynllun peilot yn cael £1280 y mis (£1,6000 cyn treth) am 24 mis, gan ddechrau o’r mis ar ôl eu 18fed pen-blwydd.

Ar 31 Gorffennaf 2023, nodwyd bod 644 o unigolion wedi elwa o’r taliad incwm sylfaenol. Roedd 74 o’r rheiny yn ffoaduriaid neu’n geiswyr lloches, neu wedi bod yn ffoaduriaid neu geiswyr lloches. Nid ‘mudwyr anghyfreithlon’ ydyn nhw ond plant a gyrhaeddodd Gymru heb rieni na gwarcheidwaid, y bu’r system ofal yn edrych ar eu hôl.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yn: Cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal