Honiad: ‘Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu treth incwm yng Nghymru‘
Does gan Lywodraeth Cymru ddim cynlluniau i gynyddu cyfraddau treth incwm.
Yn ystod ymddangosiad yn y Pwyllgor Cyllid ddydd Mercher 25 Medi 2024, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn hollol glir – er bod pob un o’r trethi datganoledig yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses gyllideb flynyddol – o gofio bod llawer o bobl yn dal i gael trafferth ymdopi â chostau byw, nid yw codi treth incwm yn rhywbeth a fydd yn cael ei argymell.