Neidio i'r prif gynnwy

Cyffyrdd yr M4

Honiad: mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cau cyffyrdd 25, 26 a 27 ar yr M4

Nid yw sylwadau diweddar sy’n awgrymu bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cau tri chyffordd ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn gywir.

Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd ochr yn ochr â datganiad y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth ar 6 Hydref yn nodi nifer o opsiynau posibl i helpu i leihau tagfeydd a gwella dibynadwyedd yr M4 o amgylch Casnewydd.

Mae un o’r opsiynau yn edrych ar newidiadau i’r ffordd y mae’r draffordd bresennol yn gweithredu. Mae hyn yn cynnwys cau Cyffordd 27 (High Cross) yn llwyr a chau’r ffyrdd ymuno ac ymadael tua’r dwyrain yng Nghyffyrdd 26 (Malpas) a 25 (Caerllion). Mae’r adroddiad hefyd yn nodi y gellid ystyried opsiynau eraill, gan gynnwys cau rhai cyffyrdd yn rhannol neu’n llwyr.

Cyn gwneud unrhyw benderfyniad, bydd rhagor o waith technegol a modelu traffig yn cael eu cynnal. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu edrych yn fanylach ar y mesurau hyn i weld a ydynt yn ymarferol a beth fyddai eu heffaith ar ddefnyddwyr y ffyrdd, busnesau a chymunedau lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymgysylltu â chymunedau lleol, awdurdodau lleol, busnesau, rhanddeiliaid ac Aelodau o’r Senedd cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.