Honiad: ‘Nid oes tystiolaeth bod y terfyn cyflymder o 20mya wedi lleihau nifer yr anafusion‘
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data bob chwarter am wrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya. Mae’r data’n cynnwys gwybodaeth ynghylch pa ardaloedd heddlu y cafwyd gwrthdrawiadau, trwy’r dangosfwrdd rhyngweithiol: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: dangosfwrdd rhyngweithiol | LLYW.CYMRU.
Mae ffigurau’r chwarter diweddaraf yn dangos y bu 19% yn llai o anafusion ar ffyrdd 20mya a 30mya (o’u cyfuno) rhwng Ionawr a Mawrth 2024 nag yn y chwarter blaenorol (463) a 26% yn llai nag yn yr un chwarter yn 2023 (510). Yn gyffredinol, mae’r nifer wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf ond dyma’r ffigur isaf i’w gofnodi yng Nghymru y tu allan i gyfnod COVID-19.
Mae adroddiad Trafnidiaeth Cymru ar y Terfyn Cyflymder Diofyn o 20mya ar Ffyrdd Cyfyngedig yn dangos bod y cyflymder ar gyfartaledd ar briffyrdd wedi gostwng 4mya ar gyfartaledd – o 28.9mya i 24.6.
Prif amcan y polisi o’r dechrau oedd lleihau nifer yr anafusion a helpu pobl i deimlo’n fwy diogel yn eu cymunedau. Byddwn yn parhau i fonitro’r duedd tymor hir ond mae pethau’n mynd i’r cyfeiriad iawn.