Neidio i'r prif gynnwy

Prydau Bargen

Honiad: Llywodraeth Cymru yn gwahardd gwerthu bargeinion prydau bwyd

Mae’r Senedd wedi pasio rheolau newydd am sut a ble y gellir hyrwyddo ac arddangos bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster, halen a siwgr mewn siopau mawr ac ar-lein.

Yn 2022, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gyfres o fesurau amgylchedd bwyd iach, a oedd yn cynnwys cynnig i gyfyngu ar fargeinion prydau bwyd.

Er hynny, nid yw bargeinion prydau bwyd o fewn cwmpas Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025, fel y nodwyd mewn ymgynghoriad diweddarach yn 2024.

Mae ein rheoliadau’n adlewyrchu i raddau helaeth y polisi a gafodd ei roi ar waith drwy reoliadau cyfatebol sydd eisoes yn bodoli gan Lywodraeth y DU. Cafodd y rheoliadau hynny eu cyflwyno gan Lywodraeth flaenorol y DU.

Cynhyrchion Mislif am Ddim

Honiad: Mae Llywodraeth Cymru yn cyfyngu cyflenwad cynnyrch mislif am ddim i grwpiau blaenoriaeth

Mae hyn yn anghywir. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cyfyngu ar ddarparu cynhyrchion mislif am ddim i grwpiau blaenoriaeth.

Mae pob awdurdod lleol yn derbyn cyllid drwy ein Grant Urddas Mislif i sicrhau mynediad urddasol ac am ddim i gynhyrchion mislif yn eu cymunedau, gan gynnwys mewn ysgolion a cholegau.

Cynllun Gweithredu Cymru sy’n Falch o’r Mislif | LLYW.CYMRU

Ffoaduriaid yng Nghymru

Honiad: Mae plant ysgol yn cael eu defnyddio i annog ffoaduriaid i ddod i Gymru

Nid yw’r honiad hwn wir.

Cynhyrchwyd y fideo dan sylw gan grŵp o blant ifanc i ddangos eu hysgol fel lle croesawgar.

Cafodd y fideo ei dynnu’n ôl yn 2023 wedi i’r ysgol dderbyn cam-drin helaeth ar-lein.

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Honiad: Gwahardd cŵn o gefn gwlad Cymru

Nid oes unrhyw gynlluniau i wahardd cŵn o gefn gwlad, ac mae unrhyw awgrym fel arall yn anghywir ac yn camgyfleu’r adroddiad hwn yn llwyr, a oedd yn trafod pa wybodaeth oedd eisoes ar gael ar y berthynas rhwng pobl o leiafrifoedd ethnig a materion amgylcheddol, a lle roedd bylchau yn y dystiolaeth.

Roedd yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gan bobl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Mae’r sylwadau a nodwyd gan y cyfryngau yn cyfleu adborth pobl yr holwyd eu barn, nid cynigion Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu cenedl wrth-hiliol erbyn 2030. Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol wedi’i lunio ar sail gwerthoedd gwrth-hiliaeth, ac mae’n galw am ddim goddefgarwch o anghydraddoldeb hiliol.

Cymru Wrth-hiliol | LLYW.CYMRU

Y Farchnad Lafur

Honiad: Mae’r farchnad lafur yng Nghymru yn perfformio’n waeth na’r DU

Mae amcangyfrifon Arolwg o’r Llafurlu (LFS) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos, ers y pandemig, er bod y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru wedi aros yn is na chyfradd y DU yn gyffredinol, mae Cymru hefyd wedi gweld cyflogaeth is ac anweithgarwch economaidd uwch nag yn y DU, gyda’r bwlch rhwng y ddwy wlad ar gyfer y mesurau hyn yn amrywio dros yr amser hwn.

Fodd bynnag, mae’r ffigurau hyn yn arbennig o gyfnewidiol i Gymru ac maent yn rhoi golwg ansicr ar y farchnad lafur pan edrychir arnynt ar wahân.

Mae’r prif ystadegau cyfredol ar y farchnad lafur, sy’n edrych ar gyfraddau cyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd, yn cael eu dosbarthu gan y SYG eu hunain fel ‘ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu’.

Mae’r SYG hefyd yn cadarnhau eu bod yn wynebu heriau wrth gynnal cyfraddau ymateb i’r Arolwg o’r Llafurlu, gan effeithio ar ddibynadwyedd ei ddata.

Y ffordd orau o ddeall perfformiad marchnad lafur Cymru yw ystyried tueddiadau tymor hwy ar draws casgliad o ddangosyddion, gan gynnwys ffynonellau data eraill fel y Trosolwg o’r farchnad lafur | LLYW.CYMRU.

Mae tystiolaeth o’r ffynonellau data hyn yn awgrymu bod y farchnad lafur yng Nghymru wedi dilyn tueddiadau tebyg i’r DU gyfan ers y pandemig.

Mae rhagor o wybodaeth am heriau, diweddariadau a dosbarthiad presennol yr arolwg o’r llafurlu ar gael mewn diweddariad y Prif Ystadegydd ar amcangyfrifon y farchnad lafur ar gyfer Cymru.

Codi Tâl ar Ddefnyddwyr y Ffordd

Hawliad: ‘Llywodraeth Cymru i ddatganoli pwerau dros dreth car talu-fesul-milltir i gynghorau lleol’

Mae pwerau dros godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd eisoes yn nwylo awdurdodau lleol yng Nghymru. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i gyflwyno codi tâl ar ddefnyddwyr ar y ffyrdd y mae’n gyfrifol amdanynt ac ni fu unrhyw newid i’r polisi.

Mwy o wybodaeth: Eich cyf (senedd.cymru)

Amseroedd Aros y GIG

Honiad: Yr un yw ‘cleifion’ a ‘llwybrau’ wrth fynd i’r afael â rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd

Bob mis, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r ystadegau diweddaraf ar berfformiad a gweithgaredd y GIG, gan ddefnyddio data Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Fel rheol, mae’r data’n cyfrif sawl gwaith y caiff un o wasanaethau’r GIG ei ddefnyddio. Camsyniad cyffredin yw eu bod yn cyfrif nifer y cleifion a ddefnyddiodd y gwasanaeth.

Bydd llwybr claf yn agor pan fydd yr ysbyty’n cael atgyfeiriad gan feddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall. Bydd amser aros y claf yn dechrau ar yr adeg honno. Gall cleifion sydd ag anghenion cymhleth fod ag atgyfeiriadau ar gyfer sawl math o driniaeth, ac felly gall mwy nag un llwybr fod wedi’i agor ar eu cyfer. 

Er y gall ymddangos bod termau fel ‘llwybrau cleifion’ a ‘cleifion’ yn gyfystyr â’i gilydd, y gwahaniaeth allweddol yw y gallai’r un claf ddefnyddio gwasanaethau’r GIG sawl gwaith. Unwaith yn unig y bydd claf unigol yn cael ei gyfrif wrth fesur cleifion, ond gall gael ei gyfrif sawl gwaith wrth fesur llwybr cleifion.

Golyga hyn fod nifer y cleifion sy’n aros am wasanaethau’r GIG bob amser yn is na nifer y llwybrau cleifion sy’n agored. O ganlyniad, mae defnyddio mesuriadau fel llwybrau cleifion yn caniatáu inni fesur gweithgarwch y GIG yn gyfan mewn modd na fyddai cyfrif “cleifion” yn unig yn ei ganiatáu.

Ceir rhagor o wybodaeth yn: Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: egluro ystadegau gweithgarwch a pherfformiad y GIG | Blog Digidol a Data (llyw.cymru)

Treth Incwm

Honiad: ‘Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu treth incwm yng Nghymru

Does gan Lywodraeth Cymru ddim cynlluniau i gynyddu cyfraddau treth incwm.

Yn ystod ymddangosiad yn y Pwyllgor Cyllid ddydd Mercher 25 Medi 2024, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn hollol glir – er bod pob un  o’r trethi datganoledig yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses gyllideb flynyddol – o gofio bod llawer o bobl yn dal i gael trafferth ymdopi â chostau byw, nid yw codi treth incwm yn rhywbeth a fydd yn cael ei argymell.

Terfynau Cyflymder 20mya

Honiad: ‘Nid oes tystiolaeth bod y terfyn cyflymder o 20mya wedi lleihau nifer yr anafusion

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data bob chwarter am wrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya. Mae’r data’n cynnwys gwybodaeth ynghylch pa ardaloedd heddlu y cafwyd gwrthdrawiadau, trwy’r dangosfwrdd rhyngweithiol: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: dangosfwrdd rhyngweithiol | LLYW.CYMRU.

Mae ffigurau’r chwarter diweddaraf yn dangos y bu 19% yn llai o anafusion ar ffyrdd 20mya a 30mya (o’u cyfuno) rhwng Ionawr a Mawrth 2024 nag yn y chwarter blaenorol (463) a 26% yn llai nag yn yr un chwarter yn 2023 (510). Yn gyffredinol, mae’r nifer wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf ond dyma’r ffigur isaf i’w gofnodi yng Nghymru y tu allan i gyfnod COVID-19.

Mae adroddiad Trafnidiaeth Cymru ar y Terfyn Cyflymder Diofyn o 20mya ar Ffyrdd Cyfyngedig yn dangos bod y cyflymder ar gyfartaledd ar briffyrdd wedi gostwng 4mya ar gyfartaledd – o 28.9mya i 24.6.

Prif amcan y polisi o’r dechrau oedd lleihau nifer yr anafusion a helpu pobl i deimlo’n fwy diogel yn eu cymunedau. Byddwn yn parhau i fonitro’r duedd tymor hir ond mae pethau’n mynd i’r cyfeiriad iawn.

Y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol

Honiad: ‘Mae Cymru yn rhoi £1,600 y mis i fudwyr anghyfreithlon

Cafodd y cynllun peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal ei gynllunio gan Lywodraeth Cymru i gefnogi plant wrth iddynt adael gofal yn 18 oed. Nod y peilot oedd rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’r grŵp hwn. Roedd gan y rhaglen feini prawf cymhwyso penodol iawn.

Roedd y peilot ar agor rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023 i’r rhai oedd yn troi’n 18 oed yn y cyfnod hwnnw ac wedi bod yng ngofal yr awdurdod lleol am o leiaf 13 wythnos rhwng 14 ac 18 oed, gan gynnwys pobl ifanc sy’n byw tu allan i Gymru ond yn cael cefnogaeth gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae’r rhai sy’n rhan o’r cynllun peilot yn cael £1280 y mis (£1,6000 cyn treth) am 24 mis, gan ddechrau o’r mis ar ôl eu 18fed pen-blwydd.

Darllenwch mwy