Honiad: Bydd y ddarpariaeth o laeth am ddim mewn ysgolion cynradd yn dod i ben yng Nghymru
Mae hyn yn anghywir.
Ar hyn o bryd, mae’r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yn darparu llaeth am ddim i ddysgwyr o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2, a llaeth â chymhorthdal i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 3 i 6. Mae’r cynllun yn cael ei weinyddu gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig ar ran Llywodraeth Cymru, ond bydd yr Asiantaeth yn rhoi’r gorau i weinyddu’r cynllun yng Nghymru ar ôl 31 Mawrth 2027.
Gan fod yr Asiantaeth Taliadau Gwledig yn rhoi’r gorau i weinyddu’r cynllun, mae Llywodraeth Cymru bellach yn ymgynghori ar ddyfodol y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol. Mae’r ymgynghoriad yn gofyn a ddylid sefydlu cynllun llaeth ysgol newydd i Gymru, i gymryd lle cynllun yr Asiantaeth Taliadau Gwledig o fis Ebrill 2027, neu a ddylid rhoi’r gorau i’r cynllun llaeth ysgol am ddim.
Beth bynnag fydd canlyniad yr ymgynghoriad, bydd llaeth yn parhau i fod ar gael i blant oedran cynradd drwy glybiau brecwast ac amser cinio drwy’r Cynnig Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd. Mae’r cynllun yma ar gael i bob dysgwr ysgol gynradd. Mae’r ymgynghoriad ar gael yma: Opsiynau i’r dyfodol ar gyfer y cynllun cymhorthdal llaeth ysgol yng Nghymru | LLYW.CYMRU