Neidio i'r prif gynnwy

Archwiliad Casey

Honiad: ‘Nid oedd yr Archwiliad Casey yn gallu cael data gan Lywodraeth Cymru ar faint o achosion o gamdriniaeth neu gamfanteisio’n rhywiol ar blant, sy’n ymddangos yn y gwasanaethau iechyd’

Mae tîm Archwiliad Casey wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi darparu’r wybodaeth a ofynnwyd amdani.

Maent hefyd wedi cadarnhau na wnaethant ofyn yn benodol am ddata ar achosion o gamdrin plant yn rhywiol a chamfanteisio a welwyd yn y gwasanaethau iechyd.

Byddant yn cywiro’r adroddiad.

Prydau Bargen

Honiad: Llywodraeth Cymru yn gwahardd gwerthu bargeinion prydau bwyd

Mae’r Senedd wedi pasio rheolau newydd am sut a ble y gellir hyrwyddo ac arddangos bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster, halen a siwgr mewn siopau mawr ac ar-lein.

Yn 2022, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gyfres o fesurau amgylchedd bwyd iach, a oedd yn cynnwys cynnig i gyfyngu ar fargeinion prydau bwyd.

Er hynny, nid yw bargeinion prydau bwyd o fewn cwmpas Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025, fel y nodwyd mewn ymgynghoriad diweddarach yn 2024.

Mae ein rheoliadau’n adlewyrchu i raddau helaeth y polisi a gafodd ei roi ar waith drwy reoliadau cyfatebol sydd eisoes yn bodoli gan Lywodraeth y DU. Cafodd y rheoliadau hynny eu cyflwyno gan Lywodraeth flaenorol y DU.

Amseroedd Aros y GIG

Honiad: Yr un yw ‘cleifion’ a ‘llwybrau’ wrth fynd i’r afael â rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd

Bob mis, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r ystadegau diweddaraf ar berfformiad a gweithgaredd y GIG, gan ddefnyddio data Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Fel rheol, mae’r data’n cyfrif sawl gwaith y caiff un o wasanaethau’r GIG ei ddefnyddio. Camsyniad cyffredin yw eu bod yn cyfrif nifer y cleifion a ddefnyddiodd y gwasanaeth.

Bydd llwybr claf yn agor pan fydd yr ysbyty’n cael atgyfeiriad gan feddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall. Bydd amser aros y claf yn dechrau ar yr adeg honno. Gall cleifion sydd ag anghenion cymhleth fod ag atgyfeiriadau ar gyfer sawl math o driniaeth, ac felly gall mwy nag un llwybr fod wedi’i agor ar eu cyfer. 

Er y gall ymddangos bod termau fel ‘llwybrau cleifion’ a ‘cleifion’ yn gyfystyr â’i gilydd, y gwahaniaeth allweddol yw y gallai’r un claf ddefnyddio gwasanaethau’r GIG sawl gwaith. Unwaith yn unig y bydd claf unigol yn cael ei gyfrif wrth fesur cleifion, ond gall gael ei gyfrif sawl gwaith wrth fesur llwybr cleifion.

Golyga hyn fod nifer y cleifion sy’n aros am wasanaethau’r GIG bob amser yn is na nifer y llwybrau cleifion sy’n agored. O ganlyniad, mae defnyddio mesuriadau fel llwybrau cleifion yn caniatáu inni fesur gweithgarwch y GIG yn gyfan mewn modd na fyddai cyfrif “cleifion” yn unig yn ei ganiatáu.

Ceir rhagor o wybodaeth yn: Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: egluro ystadegau gweithgarwch a pherfformiad y GIG | Blog Digidol a Data (llyw.cymru)