Neidio i'r prif gynnwy

Pont Menai

Honiad: Mae Llywodraeth Cymru wedi methu â dirprwyo’n briodol o ran Pont Menai.  Does dim rheolaeth go iawn.

Mae UK Highways A55 DBFO Ltd yn gwmni preifat sy’n llwyr gyfrifol am weithredu a chynnal a chadw’r A55 rhwng Cyffordd 1 a Chyffordd 11 a Dolen Menai yr A5 sy’n cynnwys Pont Menai. Cafodd hyn wedi’i wneud yn unol â gofynion y contract a fyddai’n cyd-fynd â safonau priffyrdd y cyfnod. Byddai’r archwiliadau yn arwain y gwaith cynnal a chadw angenrheidiol ar y bont ac mae hyn wedi digwydd, felly mae’r gwaith adnewyddu Cam 2 yn cael ei raglennu.

Dyfarnwyd y contract Menter Cyllid Preifat (PFI) i UK Highways A55 DBFO Ltd ym mis Rhagfyr 1998 a oedd cyn datganoli a Llywodraeth Cymru am dymor o 30 mlynedd, sef y ffordd gyntaf yng Nghymru a ariennir yn breifat. Mae disgwyl iddo ddod i ben yn 2028, ac mae Llywodraeth Cymru ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru wedi cynyddu gwaith rheoli o ran trosglwyddo’r ased yn ôl i Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae contractau o fath PFI yn cael eu defnyddio ledled y DU i gefnogi gwaith dylunio, adeiladu, ariannu a gweithredu prosiectau seilwaith amrywiol, gan gynnwys prosiectau ffyrdd eraill.

Yn ystod y contract, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol fel y cleient sy’n rheoli’r contract a Gweinidogion Cymru fel yr awdurdod priffyrdd. Mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn ysgwyddo rôl y cynrychiolydd adrannol i ddarparu cymorth i sicrhau bod dyletswyddau’r contract yn cael eu cyflawni.

Mae rolau a chyfrifoldebau yn gwbl hysbys rhwng yr holl bartïon a chynhelir cyfarfodydd gydag UK Highways A55 DBFO Ltd yn rheolaidd o ddydd i ddydd ac ar lefel bwrdd.

UK Highways A55 DBFO Ltd sy’n llwyr gyfrifol am y gwaith sydd ei angen i Bont Menai, gan gynnwys y costau. Mae gwaith yn mynd rhagddo’n gyflym i ddatrys y sefyllfa o ran cau’r bont a datblygu cynllun gorfodi rheoli traffig i ailagor y bont yn rhannol cyn gynted ag y bo’n ymarferol ac yn ddiogel i wneud hynny.

Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Honiad: Yn seiliedig ar fodelu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, bydd 2000 o swyddi yn cael eu colli ar ffermydd yng Nghymru

Nid yw sylfaen dystiolaeth y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a gyhoeddwyd gennym yn cynnwys unrhyw gyfeiriadau at golli swyddi.

Mae modelu yn cyfeirio at newid amcangyfrifedig posibl yn y gofynion llafur safonol (oriau a weithiwyd) o’r haen Gyffredinol. Nid yw hyn yr un peth â swyddi.

Mae’r gostyngiad bach posibl o 3.7% yn y gofynion llafur safonol yn tybio bod pob fferm yng Nghymru wedi ymgymryd â’r camau gweithredu Cyffredinol yn y SFS. Fodd bynnag, mae hyn yn seiliedig ar effeithiau tebygol goramcangyfrif ar niferoedd da byw ac nid yw’n ystyried y gwaith ychwanegol sydd ei angen ar y fferm, trwy bethau fel profion pridd, nac effaith gadarnhaol y camau gweithredu dewisol a chydweithredol ar lafur.

Nid oes unrhyw beth mewn unrhyw adroddiadau rydyn ni wedi’u cyhoeddi sy’n dweud y bydd swyddi yn cael eu colli o ganlyniad i’r SFS.

Cenedl Noddfa

Honiad: Mae £55m wedi’i wario ar Genedl Noddfa

Mae’r cofnod hwn wedi’i diweddaru yn dilyn adolygiad o’r incwm a’r gwariant terfynol ar gyfer cyllideb Cenedl Noddfa ar gyfer 2024-25 i adlewyrchu’r ffigyrau terfynol diwedd blwyddyn. Mae gwariant y gyllideb ar gyfer y blynyddoedd ariannol llawn o 2019-2025 wedi’i ddiweddaru o tua £54.88m i gyfanswm o £63.87m, gyda £58.22m (91% o’r cyfanswm) yn gysylltiedig â chefnogi pobl Wcráin yn dod i Gymru, o’i gymharu â’r £45.5m (83%) a nodwyd yn flaenorol.

Ceir mwy o wybodaeth yma: Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar wariant Cenedl Noddfa – 2019-2025 (6 Tachwedd 2025) | LLYW.CYMRU

Plannu coed yn Uganda

Honiad: Mae Llywodraeth Cymru yn gwario £4m o arian y trethdalwyr ar blannu coed ‘cyfartal rhwng y rhywiau’ yn Uganda

Y cyllid ar gyfer y rhaglen plannu coed ym Mbale dros y 15 mlynedd diwethaf yw tua £270,000 y flwyddyn, (tua 0.001% o’n cyllideb flynyddol).

Mae plannu coed yn helpu i liniaru newid yn yr hinsawdd i bawb. Mae plannu coed mewn lleoedd yn agos at y cyhydedd, fel Mbale, yn golygu eu bod yn tyfu bedair gwaith yn gyflymach ac yn dal carbon yn fwy effeithlon.

Cost amcangyfrifol fesul coeden dros oes y prosiect yw 15 ceiniog y goeden. Mae’r arian hefyd yn helpu’r gymuned i wella arferion amaeth ac yn cefnogi swyddi i fenywod.

Drwy gefnogi’r prosiect hwn a arweinir gan Uganda, mae Cymru yn helpu rhai o’r bobl doltaf yn y byd i addasu i newid yn yr hinsawdd ac i wella eu bywydau. Yn ogystal â mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, mae coed yn diogelu pobl leol yn ardal Mynydd Elgon rhag tirlithriadau angheuol.

Mae Maint Cymru wedi gweithio gyda miloedd o bobl ifanc mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd ledled Cymru i ddysgu am newid hinsawdd, dod yn ddinasyddion byd cyfrifol, a chymryd camau gwybodus mewn cyfnod o bryder am yr hinsawdd. Maent yn cynnig sesiynau dwyieithog am ddim i ysgolion.

Rhagor o wybodaeth am Jenipher’s Coffi, Deborah Nabulobi a Maint Cymru.

Sgiliau darllen

Honiad: Yng Nghymru, mae 20% o blant yn gadael yr ysgol gynradd yn anllythrennog

Nid yw’r ffigur hwn yn gywir wrth ddod i gasgliadau am addysg yn 2025. Mae’r ffigur yn cyfuno canfyddiadau o dri adroddiad Estyn a gyhoeddwyd yn 2011 a 2012 o sampl fechan o ysgolion a arolygwyd yn ystod y blynyddoedd hynny.

Mae’r honiad felly allan o’i gyd-destun ac yn seiliedig ar gyfnod arall.

Nid yw ‘anllythrennog’ yn derm sy’n cael ei gydnabod na’i gasglu fel eitem ddata gan Lywodraeth Cymru, ac nid yw’n cael ei ddefnyddio gan Estyn yn eu hadroddiadau arolygu ysgolion.

Adroddiadau Estyn

Nid oedd adroddiad blynyddol Estyn 2011/2012 (adran 3) yn cyfeirio at blant anllythrennog. Mae’n dweud: ‘Yn tua phedair o bob pump o’r ysgolion,
mae’r disgyblion cyfnod allweddol 2 yn defnyddio’u medrau darllen yn briodol yn y
rhannau eraill o’r cwricwlwm. Ond, mewn un o bob pum ysgol, mae gormod o’r disgyblion yn darllen ar lefel sy’n is na’u hoed cronolegol. Nid yw lleiafrif o’r disgyblion yn gwneud digon o gynnydd o ran dod i ddeall y pethau maen nhw’n eu darllen.’  

Mae adroddiad blynyddol Estyn 2010/2011 yn nodi ‘Mewn arolwg a wnaethon ni eleni,
fe ganfuon ni fod oed darllen 20% o ddisgyblion ar adeg eu derbyn i’r ysgol
uwchradd yn is na naw mlwydd a chwe mis oed, sef y lefel sy’n cael ei derbyn
yn gyffredinol fel lefel llythrennedd gweithredol. Mae oed darllen 20% arall rhwng chwech a 18 mis yn is na’u hoed gwirioneddol’.

 Yn ôl adolygiad thematig Estyn ar lythrennedd (CA3) yn 2012: “Mae tua 40% o ddysgwyr yn dechrau ysgolion uwchradd ym Mlwyddyn 7 gydag oedrannau darllen gryn dipyn islaw eu hoedran cronolegol (o leiaf chwe mis). Nid yw tua 20% o’r dysgwyr hyn yn llythrennog weithredol, ac mae eu hoedrannau darllen islaw naw mlwydd a hanner.”

Fel sampl fechan ledled Cymru yn y cyfnod penodol hwnnw, nid yw hyn yn gyfystyr ag 20% o’r holl ddysgwyr.

Archwiliad Casey

Honiad: ‘Nid oedd yr Archwiliad Casey yn gallu cael data gan Lywodraeth Cymru ar faint o achosion o gamdriniaeth neu gamfanteisio’n rhywiol ar blant, sy’n ymddangos yn y gwasanaethau iechyd’

Mae tîm Archwiliad Casey wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi darparu’r wybodaeth a ofynnwyd amdani.

Maent hefyd wedi cadarnhau na wnaethant ofyn yn benodol am ddata ar achosion o gamdrin plant yn rhywiol a chamfanteisio a welwyd yn y gwasanaethau iechyd.

Byddant yn cywiro’r adroddiad.

Cymorth i Fyfyrwyr ar Gyfer Addysg Uwch

Honiad: Mae Llywodraeth Cymru yn gwario mwy na £500m ar fyfyrwyr sy’n astudio yn Lloegr a gellid defnyddio’r arian hwn at ddibenion eraill.

Mae’r honiad hwn yn anghywir ac yn gamarweiniol heb gyd-destun ychwanegol.

Talodd Llywodraeth Cymru £1.17 biliwn mewn benthyciadau, sy’n cael eu had-dalu, a grantiau nad ydynt yn cael eu had-dalu, i fyfyrwyr o Gymru (sy’n astudio yng Nghymru a’r tu allan i Gymru) ym mlwyddyn academaidd 2023/24.

O hyn, benthycwyd £911m i fyfyrwyr i gefnogi eu ffioedd dysgu a’u costau cynhaliaeth. Gwariwyd y £264m a oedd yn weddill ar grantiau, gan gynnwys grantiau cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw, grantiau Lwfans i Fyfyrwyr Anabl a grantiau eraill wedi’u targedu.

Mae’r ffigur o £500m ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio y tu allan i Gymru yn seiliedig ar ddata penodol gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ac mae’n cynnwys gwariant ar fenthyciadau a grantiau.

Darperir cyllid ar gyfer benthyciadau myfyrwyr gan Drysorlys EM ac ni all Llywodraeth Cymru ei ailddyrannu na’i wario at unrhyw ddiben arall.

Mae’r lefel uchaf o gymorth grant mewn addysg uwch yn cael ei roi i’r myfyrwyr hynny sydd fwyaf mewn angen. Mae hyn yn golygu bod yr aelwydydd incwm isaf yn derbyn y lefelau uchaf o grant (ac felly’r lefelau isaf o ddyled). Byddai lleihau’r grantiau i fyfyrwyr sy’n gadael Cymru i astudio yn golygu lleihau’r cymorth cynhaliaeth cyffredinol i fyfyrwyr, a allai gyfyngu’r cyfleoedd hyn i fynychu prifysgol y tu allan i Gymru i’r rhai sy’n gallu ei fforddio yn unig, a chynyddu dyledion i fyfyrwyr o aelwydydd incwm is.

Ceir rhagor o wybodaeth yma: Cymorth i fyfyrwyr ar gyfer addysg uwch (prif ddata): 2024 (dros dro) [HTML] | LLYW.CYMRU 

Rhaglen Seren

Honiad: Mae rhaglen Seren yn annog pobl ifanc i adael Cymru a mynd i astudio mewn prifysgolion yn Lloegr.

Mae’r honiad hwn yn anghywir.

Nid yw Seren yn ariannu trefn sy’n annog dysgwyr i adael Cymru.

Mae Seren yn cefnogi’r dysgwyr mwyaf galluog yn academaidd, waeth beth fo’u cefndir economaidd, igael yr uchelgais, y profiad ac i wneud cais i’r cwrs addysg uwch gorau sy’n iawn iddynt, gan gynnwys cyrsiau prifysgolion yng Nghymru. Mae Seren yn gweithio’n agos iawn â phrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth, Bangor a Phrifysgol De Cymru i gefnogi dysgwyr drwy gynnal dosbarthiadau meistr, seminarau a chyrsiau preswyl. Dewisodd 35.2% o ddysgwyr Seren a ddechreuodd yn y brifysgol yn 2023 astudio yng Nghymru. O’r dysgwyr hynny a fynychodd Ysgol Haf Meddygon Seren a drefnwyd ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd yn 2023, gwnaeth 82% ohonynt gais i Brifysgol Caerdydd.

Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg

Honiad: Bydd Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg yn caniatáu rhannu gwybodaeth am ddisgyblion â llywodraeth y DU fel rhan o’r Bil Lles Plant ac Ysgolion.

Mae’r honiad hwn yn anghywir.

Nid yw Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg yn ymwneud ag addysg ddewisol yn y cartref, ac nid yw’n gofrestr. Mae hefyd yn gwbl ar wahân i’r darpariaethau arfaethedig ar gyfer ‘Plant nad ydynt yn yr ysgol’ sy’n rhan o Fil Lles Plant ac Ysgolion llywodraeth y DU.

Bydd yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol rannu gwybodaeth gyfyngedig iawn ac anghlinigol am blant o oedran ysgol gorfodol ag awdurdod lleol cartref y plentyn yn unig. Dim ond gwybodaeth am blant sy’n hysbys i’w bwrdd iechyd, ond nad oes gan eu hawdurdod lleol gofnod o sut na ble maen nhw’n cael eu haddysg, a fydd yn cael ei chynnwys yn y gronfa ddata. Unwaith y bydd yr awdurdod lleol yn cael sicrwydd bod plentyn sydd wedi’i gofnodi yn y gronfa ddata yn derbyn addysg addas, bydd enw’r plentyn yn cael ei dynnu o’r gronfa ddata.

Mae gwybodaeth am gynllun peilot y gronfa ddata ar gael yma: Cronfa ddata plant sy’n colli addysg | LLYW.CYMRU

Bil Lles Plant ac Ysgolion

Honiad: Mae’r Bil Lles Plant ac Ysgolion yn atal rhieni rhag addysgu yn y cartref ac ni all rhieni godi pryderon

Mae’r honiad hwn yn anghywir.

Nid yw rhannau ‘Plant nad ydynt yn yr ysgol’ o’r Bil yn atal rhieni rhag addysgu yn y cartref, ond maen nhw’n ychwanegu rhagor o drefniadau goruchwylio. Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil hwn ym mis Rhagfyr 2024 er mwyn i Loegr wella trefniadau diogelu plant, cadw cofnod o nifer y plant nad ydynt yn yr ysgol, a gwella gofal cymdeithasol plant.

Rydym am i rai rhannau o’r Bil fod yn berthnasol i Gymru hefyd, er mwyn sicrhau’r un trefniadau diogelu i blant yng Nghymru, a helpu awdurdodau lleol a phartneriaid i gyflawni eu dyletswyddau diogelu.

Cyn y gall y rheolau hyn fod yn berthnasol i Gymru:

  • Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal fel y gall pobl rannu eu barn ar y cynigion.
  • Bydd angen iddynt gael eu cymeradwyo gan y Senedd.

Mae’r rhannau o’r Bil a fydd yn berthnasol i Gymru yn cynnwys:

  • Plant mewn llety diogel
  • Ehangu trefniadau diogelu plant rhag camdriniaeth gan weithiwyr gofal i gynnwys pobl ifanc 16/17 oed
  • Plant nad ydynt yn yr ysgol

Mae’r manylion llawn ar gael yma: Bil Lles Plant ac Ysgolion – Biliau Seneddol – Senedd y DU