Honiad: Mae’r Bil Lles Plant ac Ysgolion yn atal rhieni rhag addysgu yn y cartref ac ni all rhieni godi pryderon
Mae’r honiad hwn yn anghywir.
Nid yw rhannau ‘Plant nad ydynt yn yr ysgol’ o’r Bil yn atal rhieni rhag addysgu yn y cartref, ond maen nhw’n ychwanegu rhagor o drefniadau goruchwylio. Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil hwn ym mis Rhagfyr 2024 er mwyn i Loegr wella trefniadau diogelu plant, cadw cofnod o nifer y plant nad ydynt yn yr ysgol, a gwella gofal cymdeithasol plant.
Rydym am i rai rhannau o’r Bil fod yn berthnasol i Gymru hefyd, er mwyn sicrhau’r un trefniadau diogelu i blant yng Nghymru, a helpu awdurdodau lleol a phartneriaid i gyflawni eu dyletswyddau diogelu.
Cyn y gall y rheolau hyn fod yn berthnasol i Gymru:
- Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal fel y gall pobl rannu eu barn ar y cynigion.
- Bydd angen iddynt gael eu cymeradwyo gan y Senedd.
Mae’r rhannau o’r Bil a fydd yn berthnasol i Gymru yn cynnwys:
- Plant mewn llety diogel
- Ehangu trefniadau diogelu plant rhag camdriniaeth gan weithiwyr gofal i gynnwys pobl ifanc 16/17 oed
- Plant nad ydynt yn yr ysgol
Mae’r manylion llawn ar gael yma: Bil Lles Plant ac Ysgolion – Biliau Seneddol – Senedd y DU