Honiad: Nid oes unrhyw doriad mewn termau real i ddyraniad cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2027-28
Mae hyn yn anghywir.
Mae setliad grant bloc adnoddau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2027-28 £146m, neu 0.6%, yn uwch mewn termau arian parod nag yn 2026-27. Fodd bynnag, o ystyried chwyddiant yn 2027-28 o 2.1%, mae hyn yn golygu gostyngiad o 1.5% mewn termau real.
Mae cyllideb adnoddau Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys y sefyllfa net o ran trethi datganoledig ac ardrethi busnes. Mae ystyried yr elfennau hynny yn y ddwy flynedd yn cynyddu’r cynnydd o ran termau arian parod o flwyddyn i flwyddyn i oddeutu £400m neu 1.6%. Fodd bynnag, mewn termau real mae hynny’n dal i olygu gostyngiad o 0.5%.
Ar y sail honno, mae Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â sylwebwyr annibynnol fel y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol, wedi asesu effaith Cyllideb y DU ar Gymru fel un a fydd yn arwain at ostyngiadau termau real i’n cyllid y flwyddyn nesaf.
Dylid nodi bod disgwyl i’r cynnydd blynyddol cyfartalog mewn termau real yng nghyllideb Llywodraeth Cymru yn ystod tymor seneddol presennol y DU (2023-24 i 2028-29) fod yn is na thymor seneddol blaenorol y DU (2019-20 i 2023-24).
Ceir rhagor o wybodaeth yma: Datganiad Ysgrifenedig: Goblygiadau Cyllideb Hydref y DU (5 Tachwedd 2026) | LLYW.CYMRU