Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth i Fyfyrwyr ar Gyfer Addysg Uwch

Honiad: Mae Llywodraeth Cymru yn gwario mwy na £500m ar fyfyrwyr sy’n astudio yn Lloegr a gellid defnyddio’r arian hwn at ddibenion eraill.

Mae’r honiad hwn yn anghywir ac yn gamarweiniol heb gyd-destun ychwanegol.

Talodd Llywodraeth Cymru £1.17 biliwn mewn benthyciadau, sy’n cael eu had-dalu, a grantiau nad ydynt yn cael eu had-dalu, i fyfyrwyr o Gymru (sy’n astudio yng Nghymru a’r tu allan i Gymru) ym mlwyddyn academaidd 2023/24.

O hyn, benthycwyd £911m i fyfyrwyr i gefnogi eu ffioedd dysgu a’u costau cynhaliaeth. Gwariwyd y £264m a oedd yn weddill ar grantiau, gan gynnwys grantiau cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw, grantiau Lwfans i Fyfyrwyr Anabl a grantiau eraill wedi’u targedu.

Mae’r ffigur o £500m ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio y tu allan i Gymru yn seiliedig ar ddata penodol gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ac mae’n cynnwys gwariant ar fenthyciadau a grantiau.

Darperir cyllid ar gyfer benthyciadau myfyrwyr gan Drysorlys EM ac ni all Llywodraeth Cymru ei ailddyrannu na’i wario at unrhyw ddiben arall.

Mae’r lefel uchaf o gymorth grant mewn addysg uwch yn cael ei roi i’r myfyrwyr hynny sydd fwyaf mewn angen. Mae hyn yn golygu bod yr aelwydydd incwm isaf yn derbyn y lefelau uchaf o grant (ac felly’r lefelau isaf o ddyled). Byddai lleihau’r grantiau i fyfyrwyr sy’n gadael Cymru i astudio yn golygu lleihau’r cymorth cynhaliaeth cyffredinol i fyfyrwyr, a allai gyfyngu’r cyfleoedd hyn i fynychu prifysgol y tu allan i Gymru i’r rhai sy’n gallu ei fforddio yn unig, a chynyddu dyledion i fyfyrwyr o aelwydydd incwm is.

Ceir rhagor o wybodaeth yma: Cymorth i fyfyrwyr ar gyfer addysg uwch (prif ddata): 2024 (dros dro) [HTML] | LLYW.CYMRU 

Rhaglen Seren

Honiad: Mae rhaglen Seren yn annog pobl ifanc i adael Cymru a mynd i astudio mewn prifysgolion yn Lloegr.

Mae’r honiad hwn yn anghywir.

Nid yw Seren yn ariannu trefn sy’n annog dysgwyr i adael Cymru.

Mae Seren yn cefnogi’r dysgwyr mwyaf galluog yn academaidd, waeth beth fo’u cefndir economaidd, igael yr uchelgais, y profiad ac i wneud cais i’r cwrs addysg uwch gorau sy’n iawn iddynt, gan gynnwys cyrsiau prifysgolion yng Nghymru. Mae Seren yn gweithio’n agos iawn â phrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth, Bangor a Phrifysgol De Cymru i gefnogi dysgwyr drwy gynnal dosbarthiadau meistr, seminarau a chyrsiau preswyl. Dewisodd 35.2% o ddysgwyr Seren a ddechreuodd yn y brifysgol yn 2023 astudio yng Nghymru. O’r dysgwyr hynny a fynychodd Ysgol Haf Meddygon Seren a drefnwyd ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd yn 2023, gwnaeth 82% ohonynt gais i Brifysgol Caerdydd.

Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg

Honiad: Bydd Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg yn caniatáu rhannu gwybodaeth am ddisgyblion â llywodraeth y DU fel rhan o’r Bil Lles Plant ac Ysgolion.

Mae’r honiad hwn yn anghywir.

Nid yw Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg yn ymwneud ag addysg ddewisol yn y cartref, ac nid yw’n gofrestr. Mae hefyd yn gwbl ar wahân i’r darpariaethau arfaethedig ar gyfer ‘Plant nad ydynt yn yr ysgol’ sy’n rhan o Fil Lles Plant ac Ysgolion llywodraeth y DU.

Bydd yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol rannu gwybodaeth gyfyngedig iawn ac anghlinigol am blant o oedran ysgol gorfodol ag awdurdod lleol cartref y plentyn yn unig. Dim ond gwybodaeth am blant sy’n hysbys i’w bwrdd iechyd, ond nad oes gan eu hawdurdod lleol gofnod o sut na ble maen nhw’n cael eu haddysg, a fydd yn cael ei chynnwys yn y gronfa ddata. Unwaith y bydd yr awdurdod lleol yn cael sicrwydd bod plentyn sydd wedi’i gofnodi yn y gronfa ddata yn derbyn addysg addas, bydd enw’r plentyn yn cael ei dynnu o’r gronfa ddata.

Mae gwybodaeth am gynllun peilot y gronfa ddata ar gael yma: Cronfa ddata plant sy’n colli addysg | LLYW.CYMRU

Bil Lles Plant ac Ysgolion

Honiad: Mae’r Bil Lles Plant ac Ysgolion yn atal rhieni rhag addysgu yn y cartref ac ni all rhieni godi pryderon

Mae’r honiad hwn yn anghywir.

Nid yw rhannau ‘Plant nad ydynt yn yr ysgol’ o’r Bil yn atal rhieni rhag addysgu yn y cartref, ond maen nhw’n ychwanegu rhagor o drefniadau goruchwylio. Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil hwn ym mis Rhagfyr 2024 er mwyn i Loegr wella trefniadau diogelu plant, cadw cofnod o nifer y plant nad ydynt yn yr ysgol, a gwella gofal cymdeithasol plant.

Rydym am i rai rhannau o’r Bil fod yn berthnasol i Gymru hefyd, er mwyn sicrhau’r un trefniadau diogelu i blant yng Nghymru, a helpu awdurdodau lleol a phartneriaid i gyflawni eu dyletswyddau diogelu.

Cyn y gall y rheolau hyn fod yn berthnasol i Gymru:

  • Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal fel y gall pobl rannu eu barn ar y cynigion.
  • Bydd angen iddynt gael eu cymeradwyo gan y Senedd.

Mae’r rhannau o’r Bil a fydd yn berthnasol i Gymru yn cynnwys:

  • Plant mewn llety diogel
  • Ehangu trefniadau diogelu plant rhag camdriniaeth gan weithiwyr gofal i gynnwys pobl ifanc 16/17 oed
  • Plant nad ydynt yn yr ysgol

Mae’r manylion llawn ar gael yma: Bil Lles Plant ac Ysgolion – Biliau Seneddol – Senedd y DU