Neidio i'r prif gynnwy

Plannu coed yn Uganda

Honiad: Mae Llywodraeth Cymru yn gwario £4m o arian y trethdalwyr ar blannu coed ‘cyfartal rhwng y rhywiau’ yn Uganda

Y cyllid ar gyfer y rhaglen plannu coed ym Mbale dros y 15 mlynedd diwethaf yw tua £270,000 y flwyddyn, (tua 0.001% o’n cyllideb flynyddol).

Mae plannu coed yn helpu i liniaru newid yn yr hinsawdd i bawb. Mae plannu coed mewn lleoedd yn agos at y cyhydedd, fel Mbale, yn golygu eu bod yn tyfu bedair gwaith yn gyflymach ac yn dal carbon yn fwy effeithlon.

Cost amcangyfrifol fesul coeden dros oes y prosiect yw 15 ceiniog y goeden. Mae’r arian hefyd yn helpu’r gymuned i wella arferion amaeth ac yn cefnogi swyddi i fenywod.

Drwy gefnogi’r prosiect hwn a arweinir gan Uganda, mae Cymru yn helpu rhai o’r bobl doltaf yn y byd i addasu i newid yn yr hinsawdd ac i wella eu bywydau. Yn ogystal â mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, mae coed yn diogelu pobl leol yn ardal Mynydd Elgon rhag tirlithriadau angheuol.

Mae Maint Cymru wedi gweithio gyda miloedd o bobl ifanc mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd ledled Cymru i ddysgu am newid hinsawdd, dod yn ddinasyddion byd cyfrifol, a chymryd camau gwybodus mewn cyfnod o bryder am yr hinsawdd. Maent yn cynnig sesiynau dwyieithog am ddim i ysgolion.

Rhagor o wybodaeth am Jenipher’s Coffi, Deborah Nabulobi a Maint Cymru.

Sgiliau darllen

Honiad: Yng Nghymru, mae 20% o blant yn gadael yr ysgol gynradd yn anllythrennog

Nid yw’r ffigur hwn yn gywir wrth ddod i gasgliadau am addysg yn 2025. Mae’r ffigur yn cyfuno canfyddiadau o dri adroddiad Estyn a gyhoeddwyd yn 2011 a 2012 o sampl fechan o ysgolion a arolygwyd yn ystod y blynyddoedd hynny.

Mae’r honiad felly allan o’i gyd-destun ac yn seiliedig ar gyfnod arall.

Nid yw ‘anllythrennog’ yn derm sy’n cael ei gydnabod na’i gasglu fel eitem ddata gan Lywodraeth Cymru, ac nid yw’n cael ei ddefnyddio gan Estyn yn eu hadroddiadau arolygu ysgolion.

Adroddiadau Estyn

Nid oedd adroddiad blynyddol Estyn 2011/2012 (adran 3) yn cyfeirio at blant anllythrennog. Mae’n dweud: ‘Yn tua phedair o bob pump o’r ysgolion,
mae’r disgyblion cyfnod allweddol 2 yn defnyddio’u medrau darllen yn briodol yn y
rhannau eraill o’r cwricwlwm. Ond, mewn un o bob pum ysgol, mae gormod o’r disgyblion yn darllen ar lefel sy’n is na’u hoed cronolegol. Nid yw lleiafrif o’r disgyblion yn gwneud digon o gynnydd o ran dod i ddeall y pethau maen nhw’n eu darllen.’  

Mae adroddiad blynyddol Estyn 2010/2011 yn nodi ‘Mewn arolwg a wnaethon ni eleni,
fe ganfuon ni fod oed darllen 20% o ddisgyblion ar adeg eu derbyn i’r ysgol
uwchradd yn is na naw mlwydd a chwe mis oed, sef y lefel sy’n cael ei derbyn
yn gyffredinol fel lefel llythrennedd gweithredol. Mae oed darllen 20% arall rhwng chwech a 18 mis yn is na’u hoed gwirioneddol’.

 Yn ôl adolygiad thematig Estyn ar lythrennedd (CA3) yn 2012: “Mae tua 40% o ddysgwyr yn dechrau ysgolion uwchradd ym Mlwyddyn 7 gydag oedrannau darllen gryn dipyn islaw eu hoedran cronolegol (o leiaf chwe mis). Nid yw tua 20% o’r dysgwyr hyn yn llythrennog weithredol, ac mae eu hoedrannau darllen islaw naw mlwydd a hanner.”

Fel sampl fechan ledled Cymru yn y cyfnod penodol hwnnw, nid yw hyn yn gyfystyr ag 20% o’r holl ddysgwyr.