Honiad: Mae Llywodraeth Cymru yn gwario mwy na £500m ar fyfyrwyr sy’n astudio yn Lloegr a gellid defnyddio’r arian hwn at ddibenion eraill.
Mae’r honiad hwn yn anghywir ac yn gamarweiniol heb gyd-destun ychwanegol.
Talodd Llywodraeth Cymru £1.17 biliwn mewn benthyciadau, sy’n cael eu had-dalu, a grantiau nad ydynt yn cael eu had-dalu, i fyfyrwyr o Gymru (sy’n astudio yng Nghymru a’r tu allan i Gymru) ym mlwyddyn academaidd 2023/24.
O hyn, benthycwyd £911m i fyfyrwyr i gefnogi eu ffioedd dysgu a’u costau cynhaliaeth. Gwariwyd y £264m a oedd yn weddill ar grantiau, gan gynnwys grantiau cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw, grantiau Lwfans i Fyfyrwyr Anabl a grantiau eraill wedi’u targedu.
Mae’r ffigur o £500m ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio y tu allan i Gymru yn seiliedig ar ddata penodol gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ac mae’n cynnwys gwariant ar fenthyciadau a grantiau.
Darperir cyllid ar gyfer benthyciadau myfyrwyr gan Drysorlys EM ac ni all Llywodraeth Cymru ei ailddyrannu na’i wario at unrhyw ddiben arall.
Mae’r lefel uchaf o gymorth grant mewn addysg uwch yn cael ei roi i’r myfyrwyr hynny sydd fwyaf mewn angen. Mae hyn yn golygu bod yr aelwydydd incwm isaf yn derbyn y lefelau uchaf o grant (ac felly’r lefelau isaf o ddyled). Byddai lleihau’r grantiau i fyfyrwyr sy’n gadael Cymru i astudio yn golygu lleihau’r cymorth cynhaliaeth cyffredinol i fyfyrwyr, a allai gyfyngu’r cyfleoedd hyn i fynychu prifysgol y tu allan i Gymru i’r rhai sy’n gallu ei fforddio yn unig, a chynyddu dyledion i fyfyrwyr o aelwydydd incwm is.
Ceir rhagor o wybodaeth yma: Cymorth i fyfyrwyr ar gyfer addysg uwch (prif ddata): 2024 (dros dro) [HTML] | LLYW.CYMRU